Am Dan Fi
Bethan ydw i, a dechreuais fy nhaith ym maes lletygarwch pan oeddwn i’n 15 oed, wrth dyfu i fyny yn Nyffryn Conwy. Yn ifanc iawn, fe wnes i feithrin angerdd dros fwyd a’r diwydiant, ac roedd hynny’n fy arwain i astudio arlwyo yn y coleg cyn mentro ar y cam cyffrous o weithio yn Llundain a Pharis.
Ar ôl treulio naw mlynedd yn ennill profiad mewn rhai ceginau anhygoel, des i’n ôl adref i Ogledd Cymru i redeg gwesty bach ym Metws-y-Coed, lle wnes i hefyd ddechrau fy nheulu. Yn ystod y cyfnod hwn, parheais i ddatblygu fy sgiliau a’m gwybodaeth, gan fynd ymlaen i gwblhau gradd mewn Celfyddydau Coginio. Arweiniodd hynny at rôl fel darlithydd coleg, lle bûm yn rhannu fy mhrofiad gyda’r genhedlaeth nesaf o gogyddion.
Yn fwy diweddar, bûm yn gweithio fel Rheolwr Cyffredinol o fewn y diwydiant lletygarwch, gan gryfhau fy mhrofiad ymhellach o ran darparu safonau gwasanaeth uchel a phrofiad gwell i westeion.
Erbyn hyn, mae’n teimlo fel yr amser iawn i ddod â phopeth at ei gilydd a dilyn fy uchelgais o redeg fy musnes fy hun. Mae Plât y Dyffryn yn adlewyrchiad o’m taith—yn cyfuno blynyddoedd o brofiad, angerdd dros fwyd o safon, a chariad at yr ardal leol.
My name is Bethan, and my journey in hospitality began at the age of 15, growing up in the Conwy Valley. From an early stage, I developed a passion for food and the industry, which led me to study catering at college before taking the exciting step of working in London and Paris.
After spending eight years gaining experience in some incredible kitchens, I returned home to North Wales to run a small hotel in Betws-y-Coed, where I also started my family. During this time, I continued to develop my skills and knowledge, going on to complete a degree in Culinary Arts, which led to a role as a college lecturer, sharing my experience with the next generation of chefs.
More recently, I have worked as a General Manager within the hospitality industry, further strengthening my experience in delivering high standards of service and guest experience.
Now feels like the right time to bring everything together and follow my ambition of running my own business. Plât y Dyffryn is a reflection of my journey, combining years of experience, a passion for quality food, and a love for the local area.
Our meals can be either delivered on your arrival or during your stay, whilst you make the most of your time exploring the stunning surroundings. We bring delicious, home-cooked meals straight to your door. We value the importance of using fresh local ingredients in our dishes, each is prepared with care, flavour and convenience in mind.
For those looking for something extra special, we also offer a private chef experience. Enjoy restaurant- quality dining in the comfort of your holiday accommodation, with bespoke menus tailored to your tastes and occasions – from relaxed family meals to special celebrations.
We believe that great food should be an effortless part of your stay in North Wales.
Let us take care of the cooking, so you can focus on making memories
Gellir danfon ein prydau naill ai ar eich diwrnod cyrraedd neu yn ystod eich arhosiad, tra byddwch yn mwynhau’r cyfle i archwilio’r ardal odidog o’ch cwmpas. Rydym yn dod â phrydau cartref blasus, wedi’u coginio gyda gofal, yn syth at eich drws. Rydym yn gwerthfawrogi pwysigrwydd defnyddio cynhwysion ffres, lleol yn ein prydau; mae pob un yn cael ei baratoi gyda gofal, blas a chyfleustra mewn golwg.
I’r rhai sy’n chwilio am rywbeth arbennig iawn, rydym hefyd yn cynnig profiad chef preifat. Mwynhewch fwyd o ansawdd bwyty yng nghysur eich llety gwyliau, gyda bwydlenni pwrpasol wedi’u teilwra i’ch chwaeth a’ch achlysuron – o brydau teuluol hamddenol i ddathliadau arbennig.
Credwn y dylai bwyd gwych fod yn rhan hawdd ac ymlaciol o’ch arhosiad yng Ngogledd Cymru. Gadewch i ni ofalu am y coginio, fel y gallwch ganolbwyntio ar greu atgofion.